Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.

16. Mae dy allu i ddychryn pobla dy falchder wedi dy dwyllo di.Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,yn byw ar ben y mynydd –ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,bydda i'n dy dynnu di i lawr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

17. “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.

18. Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

19. “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”

20. Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman.“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.

21. Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.

22. Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr,yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra.Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn,fel gwraig ar fin cael babi!”

23. Neges am Damascus:“Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu.Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfufel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.

24. Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,ac wedi ffoi mewn panig.Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,fel gwraig ar fin cael babi.

25. Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!

26. Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

27. “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”

28. Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!Dinistriwch bobl y dwyrain.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49