Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.

13. “Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel.

14. Mae dynion Moab yn brolio,‘Dŷn ni'n arwyr!Dŷn ni'n filwyr cryfion!’

15. Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod.Bydd ei threfi'n cael eu concro,a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,”—y Brenin, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.

16. “Mae dinistr Moab ar fin digwydd;mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan.

17. Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpasa phawb sy'n gwybod amdani.Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi ei golli;mae'r deyrnwialen hardd wedi ei thorri!’

18. Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw,chi sy'n byw yn Dibon.Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosodac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn.

19. Chi sy'n byw yn Aroer,safwch ar ochr y ffordd yn gwylio.Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc,‘Beth sydd wedi digwydd?’

20. Byddan nhw'n ateb:‘Mae Moab wedi ei chywilyddio– mae wedi ei choncro.’Udwch a chrïo!Cyhoeddwch ar lan Afon Arnon‘Mae Moab wedi ei dinistrio.’”

21. Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Holon, Iahats, Meffaäth,

22. Dibon, Nebo, Beth-diblathaim,

23. Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon,

24. Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi – pell ag agos.

25. “Mae corn Moab wedi ei dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.

26. Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48