Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab:“Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio.Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro –bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.

2. Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto!Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio:‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’Tref Madmen, cei dithau dy dawelu –Does dim dianc rhag y rhyfel i fod.

3. Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm!‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’

4. Mae Moab wedi ei dryllio!Bydd ei phlant yn gweiddi allan.

5. Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchithac yn wylo'n chwerw wrth fynd.Ar y ffordd i lawr i Choronaïmbydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.

6. ‘Ffowch am eich bywydau! –byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’

7. Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun,byddi di hefyd yn cael dy goncro.Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.

8. Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd,fydd dim un yn dianc.Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio,a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd.Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48