Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab:“Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio.Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro –bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.

2. Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto!Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio:‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’Tref Madmen, cei dithau dy dawelu –Does dim dianc rhag y rhyfel i fod.

3. Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm!‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’

4. Mae Moab wedi ei dryllio!Bydd ei phlant yn gweiddi allan.

5. Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchithac yn wylo'n chwerw wrth fynd.Ar y ffordd i lawr i Choronaïmbydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.

6. ‘Ffowch am eich bywydau! –byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’

7. Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun,byddi di hefyd yn cael dy goncro.Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd,a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.

8. Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd,fydd dim un yn dianc.Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio,a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd.Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.

9. Côd garreg fedd i Moab,achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion.Bydd ei threfi yn cael eu dinistrioa fydd neb yn byw ynddyn nhw.”

10. (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio ei gleddyf i dywallt gwaed!)

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48