Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 46:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil,a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo?

8. Yr Aifft sy'n codi ac yn brolioei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd,a dinistrio dinasoedd a'u pobl.

9. “Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr farchogion!Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau!Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed –y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'i tariannau;a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.”

10. Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnwyn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion.Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon;bydd wedi meddwi ar eu gwaed!Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn eu cyflwyno nhw'n aberthar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.

11. Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli,o wyryf annwyl yr Aifft!Gelli drïo pob moddion dan haul,ond i ddim pwrpas –does dim gwella i fod i ti!

12. Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd.Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy'r byd i gyd.Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd,ac yn syrthio gyda'i gilydd!

13. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft:

14. “Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft,yn Migdol, Memffis a Tachpanches:‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn!Mae pobman o'ch cwmpasyn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’

15. Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi?Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir?Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr!

16. Gwnaeth i lu o filwyr syrthioa baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain,a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’

17. Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 46