Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 46:16-26 beibl.net 2015 (BNET)

16. Gwnaeth i lu o filwyr syrthioa baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain,a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’

17. Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”

18. “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin(yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e),“mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft.Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau,neu Fynydd Carmel ar lan y môr.

19. ‘Paciwch eich bagiau bobl yr Aifft,yn barod i'ch cymryd yn gaethion!’Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha;bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.

20. Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni,ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.

21. Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanolfel lloi wedi eu pesgi.Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd;wnân nhw ddim sefyll eu tir.Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod;mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.

22. Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel,tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus.Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill,fel dynion yn mynd i dorri coed.

23. Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid!Mae'n amhosib eu cyfri nhw!

24. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.”

25. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe.

26. Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw – sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 46