Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 46:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi?Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir?Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr!

16. Gwnaeth i lu o filwyr syrthioa baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc.‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw.‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain,a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’

17. Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’”

18. “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin(yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e),“mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft.Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau,neu Fynydd Carmel ar lan y môr.

19. ‘Paciwch eich bagiau bobl yr Aifft,yn barod i'ch cymryd yn gaethion!’Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha;bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.

20. Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni,ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.

21. Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanolfel lloi wedi eu pesgi.Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd;wnân nhw ddim sefyll eu tir.Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod;mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.

22. Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel,tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus.Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill,fel dynion yn mynd i dorri coed.

23. Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid!Mae'n amhosib eu cyfri nhw!

24. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.”

25. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe.

26. Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw – sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD.

27. “Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Peidiwch anobeithio bobl Israel.Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch planto'r wlad bell lle buoch yn gaeth.Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.

28. Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“dw i gyda chi.Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynnylle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,ond wna i ddim eich dinistrio chi.Bydda i yn eich disgyblu chi,ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 46