Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 46:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill.

2. Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):

3. “I'ch rhengoedd! Tariannau'n barod!I'r gâd!

4. Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau!Ar gefnau eich stalwyni!Helmedau ymlaen! Pawb i'w le!Rhowch fin ar eich picellau!Arfwisg ymlaen!”

5. “Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD.“Maen nhw wedi dychryn.Maen nhw'n ffoiMae'r milwyr dewr yn syrthio.Maen nhw'n dianc am eu bywydau,heb edrych yn ôl.”Does ond dychryn ym mhobman!

6. Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc;dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi.Maen nhw'n baglu ac yn syrthioar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.

7. Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil,a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo?

8. Yr Aifft sy'n codi ac yn brolioei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd,a dinistrio dinasoedd a'u pobl.

9. “Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr farchogion!Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau!Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed –y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'i tariannau;a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 46