Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 39:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda.

2. Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner.Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia dyma nhw'n torri trwy waliau'r ddinas.

3. Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol – Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd.

4. Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.

5. Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.

6. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A cafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd.

7. Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 39