Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:19-28 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dyma'r brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i yn eu dwylo nhw byddan nhw'n fy ngham-drin i.”

20. “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.

21. Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –

22. Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti:‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di!Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti!Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwddyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’

23. Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”

24. “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di bydd dy fywyd mewn perygl.

25. Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dywed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’

26. Petai hynny'n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Ro'n i'n pledio ar i'r brenin beidio fy anfon i'n ôl i'r dwnsiwn yn nhÅ· Jonathan i farw yno.’”

27. A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i'w holi, dyma fe'n dweud yn union beth oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a'r brenin.

28. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38