Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:17-23 beibl.net 2015 (BNET)

17. Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.

18. Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”

19. Dyma'r brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i yn eu dwylo nhw byddan nhw'n fy ngham-drin i.”

20. “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.

21. Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –

22. Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti:‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di!Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti!Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwddyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’

23. Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38