Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud

2. “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’

3. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw'n ei dal hi.’”

4. Felly dyma'r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i'r dyn yma farw! Mae e'n torri calonnau'r milwyr a'r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trïo helpu'r bobl yma o gwbl – gwneud niwed iddyn nhw mae e!”

5. “O'r gorau,” meddai'r brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.”

6. Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.

7. Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.

8. Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin.

9. “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi ei daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”

10. Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â tri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.”

11. Felly dyma Ebed-melech yn cymryd y dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38