4. (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.)
5. Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.
6. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia:
7. “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft,
8. a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’
9. Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd.
10. Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi eu hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’”
11. Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd,
12. a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu.
13. Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma capten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho.
14. Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion.