Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 37:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi ei roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.

17. Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia, “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”

18. Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam ydych chi wedi fy nhaflu i yn y carchar?

19. A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma?

20. Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i yn ôl i'r carchar yna yn nhÅ· Jonathan yr ysgrifennydd.”

21. Felly dyma'r brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra bod bara i'w gael yn y ddinas.Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 37