Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 37:12-20 beibl.net 2015 (BNET)

12. a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu.

13. Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma capten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho.

14. Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion.

15. Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar.

16. Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi ei roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.

17. Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia, “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”

18. Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam ydych chi wedi fy nhaflu i yn y carchar?

19. A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma?

20. Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i yn ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 37