Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi eu concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia,

2. a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw.

3. A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’

4. Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio.

5. Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O! ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’”

6. Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda.

7. Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, ac hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.

8. Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd.

9. Roedd pawb i fod i ryddhau y dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34