Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 33:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydda i'n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i'w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o'r blaen.

8. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw o'u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i'n maddau eu pechodau a'u gwrthryfel yn fy erbyn i.

9. Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i'n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma yn fy ngwneud i'n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i'r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’”

10. “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag – fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn

11. pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD:“Diolchwch i'r ARGLWYDD holl-bwerus.Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD.

12. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir – bydd y lle yma yn adfeilion, heb bobl nag anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma.

13. Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn!

14. “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda.

15. Bryd hynny,bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.

16. Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub,a bydd Jerwsalem yn saff.Bydd e'n cael ei alw,“Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.”’

17. “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth.

18. A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 33