Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob,a thosturio wrth eu teuluoedd.Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion,a'r palas yn cael ei ailadeiladu ble roedd o'r blaen.

19. Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joioi'w glywed yn dod oddi yno.Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau;Bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.

20. Bydd disgynyddion Jacob yn profi'r bendithion fel o'r blaen.Bydda i'n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl,a bydda i'n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw.

21. Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain;bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith.Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod.Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

22. “Byddwch chi'n bobl i mi,a bydda i'n Dduw i chi.”

23. Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig.Mae'n dod fel storm;fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg.

24. Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelunes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30