Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dw i gyda chi, i'ch achub chi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynnylle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,ond wna i ddim eich dinistrio chi.Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu,ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”

12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Does dim modd gwella dy friwiau;ti wedi dy anafu'n ddifrifol.

13. Does neb yn gallu dy helpu di.Does dim eli i wella'r dolur;does dim iachâd.

14. Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di.Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti!Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn;rwyt wedi diodde cosb greulon,am dy fod wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.

15. Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau?Does dim modd gwella dy boenDw i wedi gwneud hyn i gyd i tiam dy fod ti wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.

16. Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio.Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth.Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio,a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.

17. Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di;Dw i'n mynd i wella dy friwiau,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Roedden nhw'n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’.‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”

18. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob,a thosturio wrth eu teuluoedd.Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion,a'r palas yn cael ei ailadeiladu ble roedd o'r blaen.

19. Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joioi'w glywed yn dod oddi yno.Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau;Bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.

20. Bydd disgynyddion Jacob yn profi'r bendithion fel o'r blaen.Bydda i'n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl,a bydda i'n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw.

21. Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain;bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith.Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod.Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30