Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!

15. ‘Wnes i ddim eu hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'n nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’”

16. Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd.

17. Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio?

18. Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD holl-bwerus – gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a palas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon!

19. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y pileri pres o flaen y deml, y ddysgl fawr bres sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, a'r trolïau pres, ac am bob dodrefnyn arall gwerthfawr sydd wedi ei adael yn y ddinas yma.

20. (Dyma'r pethau adawodd Nebwchadnesar brenin Babilon yn Jerwsalem pan aeth â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, a phobl bwysig Jerwsalem i gyd yn gaethion i Babilon.)

21. Ie, dyma mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud am y pethau gwerthfawr sydd wedi eu gadael yn y deml a palas y brenin yn Jerwsalem:

22. ‘Bydd y cwbl yn cael eu cario i ffwrdd i Babilon ac yn aros yno nes bydda i'n dewis gwneud rhywbeth amdanyn nhw. Wedyn bydda i'n dod â nhw'n ôl i'r lle yma eto,’ Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27