Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 26:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD:

2. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dywed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud – pob gair!

3. Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud.

4. Dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw.

5. Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi eu hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw.

6. Felly os daliwch chi i wrthod gwrando bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi ei melltithio.’”

7. Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml.

8. Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn!

9. Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma yn mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml.

10. Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd.

11. Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi yn dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi ei glywed eich hunain.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 26