Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:6-18 beibl.net 2015 (BNET)

6. Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.

7. “‘Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’

8. “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.

9. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.

10. Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.

11. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.

12. “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.

13. Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.

14. Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”

15. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.

16. Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfela dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.”

17. Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd ble'r anfonodd fi yfed ohoni:

18. Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25