Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:29-35 beibl.net 2015 (BNET)

29. Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.’

30. Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw:‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod,o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith.Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin,wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.

31. Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd.Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd,ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan.Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd gan y cleddyf!’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

32. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall.Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”

33. Bydd y rhai fydd wedi eu lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar wyneb y tir.

34. Dechreuwch udo a chrïo, chi arweinwyr y bobl!Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl.Mae diwrnod y lladdfa wedi dod.Cewch eich gwasgaru.Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.

35. Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25