Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.

4. Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.

5. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.

6. Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachuba bydd Israel yn saff.Yr enw ar y brenin yma fydd,‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’

7. “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’

8. bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”

9. Neges am y proffwydi:Dw i wedi cynhyrfu'n lân,a dw i'n crynu trwyddo i.Dw i fel dyn wedi meddwi;fel rhywun sy'n chwil gaib.Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDDa'i neges yn cael ei drin.

10. Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo.Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio.Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwgac yn camddefnyddio eu grym.

11. “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol.Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneudhyd yn oed yn y deml ei hun!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio.Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23