Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo.Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio.Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwgac yn camddefnyddio eu grym.

11. “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol.Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneudhyd yn oed yn y deml ei hun!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio.Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13. “Gwelais broffwydi Samaria gyntyn gwneud peth cwbl anweddus:Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal,ac yn camarwain fy mhobl, Israel.

14. A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalemyn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll.Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd!Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwgyn lle ceisio eu cael nhw i stopio.Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i.Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”

15. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi:“Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw,ac yfed dŵr gwenwynig barn.Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifolam ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”

16. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud –maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag.Maen nhw'n rhannu eu ffantasïauyn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.

17. Maen nhw'n dal ati i ddweudwrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i,‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’

18. Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD,ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud?Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”

19. Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig.Bydd yn dod fel storm.Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.

20. Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelunes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23