Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.”

2. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.

3. “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.

4. Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.

5. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.

6. Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachuba bydd Israel yn saff.Yr enw ar y brenin yma fydd,‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’

7. “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’

8. bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23