Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:7-21 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di,pob un yn cario ei arfau.Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau,ac yn taflu'r cwbl i'r tân.

8. “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’

9. A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”

10. “Paid crïo am fod y brenin wedi marw.Paid galaru ar ei ôl.Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd.Fydd e ddim yn dod yn ôl adre,Gaiff e byth weld ei wlad eto.

11. Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.

12. Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”

13. “Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas;yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf.Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim;dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.

14. Mae'n dweud wrtho'i hun,‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych,gyda llofftydd mawr, a digon o ffenestri.Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo,a'i beintio yn goch llachar.’

15. Ydy bod â mwy o baneli cedrwyddyn dy wneud di'n well brenin?Meddylia am dy dad.Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod.Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg,ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e.

16. Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus,ac roedd pethau'n mynd yn dda.Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

17. “Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest.Ti'n lladd pobl ddiniwed,yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”

18. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud,‘O, dw i mor drist, fy mrawd!O, dw i mor drist, fy chwaer!’Fydd neb yn dweud‘O, druan o'n harglwydd ni’‘O, druan o'r brenin!’

19. Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw –Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinasa'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”

20. Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno.Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan.Ewch i alaru ar fynyddoedd AfarîmMae eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu concro!

21. Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder,ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.”Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf –dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22