Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dos i lawr i balas brenin Jwda, a rho'r neges yma iddo:

2. ‘Frenin Jwda, gwrando ar neges yr ARGLWYDD – ti sy'n perthyn i deulu brenhinol Dafydd, dy swyddogion a phawb arall sy'n mynd drwy'r giatiau yma.

3. Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A peidiwch lladd pobl ddiniwed.

4. Os ewch chi ati i wneud beth dw i'n ddweud bydd disgynyddion Dafydd yn dal i deyrnasu. Byddan nhw'n dod drwy'r giatiau yma mewn cerbydau ac ar gefn ceffylau, gyda'i swyddogion a'u pobl.

5. Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando, dw i'n addo ar fy llw y bydd y palas yma yn rwbel.”’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am balas brenin Jwda:“Ti fel tir ffrwythlon Gilead i mi,neu fel y coed ar fynyddoedd Libanus.Ond bydda i'n dy wneud di'n anialwch,a fydd neb yn byw yn dy drefi di.

7. Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di,pob un yn cario ei arfau.Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau,ac yn taflu'r cwbl i'r tân.

8. “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’

9. A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”

10. “Paid crïo am fod y brenin wedi marw.Paid galaru ar ei ôl.Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd.Fydd e ddim yn dod yn ôl adre,Gaiff e byth weld ei wlad eto.

11. Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.

12. Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22