Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 20:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl,ond alla i ddim!

10. Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i.“‛Dychryn ym mhobman‛ wir!Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!”Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i miyn disgwyl i'm gweld i yn baglu.“Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion,wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”

11. Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig.Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu.Fyddan nhw ddim yn ennill!Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant.Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!

12. O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.

13. Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD!Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.

14. Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni!Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.

15. Melltith ar y person roddodd y newyddion i dada'i wneud mor hapus wrth ddweud,“Mae gen ti fab!”

16. Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynnygafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD;yn clywed sŵn sgrechian yn y bore,a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!

17. Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth?Byddai croth fy mam yn fedd i mi,a hithau'n feichiog am byth.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 20