Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 20:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.)

2. A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml.

3. Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’

4. Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.

5. Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.

6. Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”

7. ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i,a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny.Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi.A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl.Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i!

8. Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,“Mae trais a dinistr yn dod!”Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneudyn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.

9. Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl,ond alla i ddim!

10. Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i.“‛Dychryn ym mhobman‛ wir!Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!”Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i miyn disgwyl i'm gweld i yn baglu.“Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion,wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”

11. Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig.Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu.Fyddan nhw ddim yn ennill!Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant.Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!

12. O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.

13. Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD!Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 20