Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.

8. Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.

9. Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10. “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld;neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?

11. Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?(A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.

12. Mae'r nefoedd mewn siocfod y fath beth yn gallu digwydd!Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13. “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:Maen nhw wedi troi cefn arna i,y ffynnon o ddŵr glân gloyw,a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain –pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”

14. “Ydy Israel yn gaethwas? Na!Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo!Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?

15. Mae'r gelyn yn rhuo drostofel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd.Mae'r wlad wedi ei difetha,a'i threfi'n adfeilionheb neb yn byw yno bellach.

16. A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanchesi siafio'ch pennau chi, bobl Israel.

17. Ti Israel ddaeth â hyn arnat dy hun,trwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd e'n dangos y ffordd i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2