4. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob – llwythau Israel i gyd.
5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Pa fai gafodd eich hynafiaid yno ieu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i?Dilyn delwau diwerth,a gwneud eu hunain yn dda i ddim.
6. Wnaethon nhw ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDDddaeth â ni allan o wlad yr Aifft,a'n harwain ni drwy'r anialwch? –ein harwain trwy dir diffaithoedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll;tir does neb yn mynd trwyddo,a lle does neb yn byw.’
7. Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.
8. Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.
9. Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10. “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld;neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?
11. Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?(A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.
12. Mae'r nefoedd mewn siocfod y fath beth yn gallu digwydd!Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13. “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:Maen nhw wedi troi cefn arna i,y ffynnon o ddŵr glân gloyw,a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain –pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”