Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma:Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i,a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos,fel merch ifanc ar fin priodi.Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwchmewn tir oedd heb ei drin.

3. Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD,fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf.Roedd pawb oedd yn ei chyffwrddyn cael eu cyfri'n euog,a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob – llwythau Israel i gyd.

5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Pa fai gafodd eich hynafiaid yno ieu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i?Dilyn delwau diwerth,a gwneud eu hunain yn dda i ddim.

6. Wnaethon nhw ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDDddaeth â ni allan o wlad yr Aifft,a'n harwain ni drwy'r anialwch? –ein harwain trwy dir diffaithoedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll;tir does neb yn mynd trwyddo,a lle does neb yn byw.’

7. Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.

8. Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.

9. Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2