Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:

2. “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma:Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i,a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos,fel merch ifanc ar fin priodi.Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwchmewn tir oedd heb ei drin.

3. Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD,fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf.Roedd pawb oedd yn ei chyffwrddyn cael eu cyfri'n euog,a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2