Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.

8. Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud.

9. Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.

10. Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.

11. “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’

12. “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”

13. Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gofyn i bobl y gwledydd eraillos ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!

14. Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.

15. Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdda mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.

16. O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychrynac yn ysgwyd eu pennau'n syn.

17. Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.Bydda i'n troi cefn arnyn nhwyn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18