Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia:

2. “Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”

3. Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna ble roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell.

4. Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.

5. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi:

6. “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd.

7. Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.

8. Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud.

9. Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.

10. Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.

11. “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’

12. “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”

13. Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gofyn i bobl y gwledydd eraillos ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18