Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.

10. Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.

11. Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”

12. “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!

13. ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel,a bydd pawb sy'n troi cefn arnat tiyn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirwam iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD,y ffynnon o ddŵr glân croyw.”

14. “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu;dim ond ti sy'n gallu fy achub.Ti ydy'r un dw i'n ei foli!

15. Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i!‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD?Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’

16. Gwnes i dy annog i atal y dinistr.Doedd gen i ddim eisiau gweldy diwrnod o drwbwl di-droi-nôl yn cyrraedd.Ti'n gwybod yn iawn beth ddywedais i.Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di.

17. Paid dychryn fi;ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i.

18. Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio;paid codi cywilydd arna i.Gad iddyn nhw gael eu siomi;paid siomi fi.Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw,a dinistria nhw'n llwyr!”

19. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl ble mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas.

20. Dywed wrth y bobl yno: ‘Frenhinoedd Jwda, pobl Jwda, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem; pawb sy'n dod trwy'r giatiau yma, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.

21. Gwyliwch am eich bywydau eich bod chi ddim yn cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth.

22. Peidiwch cario dim allan o'ch tai chwaith, a mynd i weithio ar y Saboth. Dw i eisiau i'r Saboth fod yn ddiwrnod sbesial, fel y dwedais i wrth eich hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17