Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:14-21 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’

15. bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.”

16. Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau.

17. Achos dw i'n gweld popeth maen nhw'n ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i.

18. Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.”

19. “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn;ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion.Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r bydyn dod atat ti ac yn dweud:‘Roedd ein hynafiaid wedi eu magu i addoli delwau diwerth,pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.

20. Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain?Na! dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’”

21. “Felly, dw i'n mynd i'w dysgu nhw,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw'n gwybod mai'r ARGLWYDD ydy fy enw i.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16