Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Paid priodi na chael plant yn y wlad yma.

3. Achos dyma sy'n mynd i ddigwydd i'r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i'w mamau a'u tadau nhw:

4. Byddan nhw'n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a'r anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff.”

5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ ble mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i'r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw.

6. Bydd yr arweinwyr a'r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain a chyllyll a siafio eu pennau i ddangos mor drist ydyn nhw.

7. Fydd neb yn mynd â bwyd i'r rhai sy'n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i'w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad.

8. “Paid mynd i rywle ble mae pobl yn gwledda a partïo chwaith.

9. Dw i, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma – sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd!

10. “Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi ei wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am bod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill; troi cefn arna i, a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16