Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Bydd y fam oedd â saith o feibionyn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu.Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywydwedi machlud ganol dydd.Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth.A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladdgan gleddyf y gelyn,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10. “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”

11. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.

12. “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”

13. “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad,bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorauyn ysbail i'ch gelynion.

14. Byddwch yn gwasanaethu eich gelynionmewn gwlad ddieithr.Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”

15. “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd.Cofia amdana i, a tyrd i'm helpu i.Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i.Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i.Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di.

16. Wrth i ti siarad ron i'n llyncu pob gair;roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus –ron i wrth fy modd!I ti dw i'n perthynO ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.

17. Wnes i ddim ymuno hefo pawb arallyn chwerthin a joio.Na, roeddwn i'n cadw ar wahânam fod dy law di arna i.Roeddwn i wedi gwylltio hefo nhw.

18. Felly pam dw i'n dal i ddioddef?Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd –fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella?Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu? –wadi sydd a'i dŵr wedi diflannu.”

19. A dyma ateb yr ARGLWYDD:“Rhaid i ti stopio siarad fel yna!Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn,a cei ddal ati i'm gwasanaethu i.Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh,wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i.Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw,nid nhw yn dylanwadu arnat ti!

20. Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres.Byddan nhw'n ymosod arnat tiond yn methu dy drechu di.Bydda i'n edrych ar dy ôl diac yn dy achub di.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. “Bydda i'n dy achub di o afael y bobl ddrwg yma,ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15