Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd!

2. Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn.Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’

3. Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwylltion yn gorffen beth sydd ar ôl.

4. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”

5. “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem?Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti?Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?

6. Ti wedi troi cefn arna i”, meddai'r ARGLWYDD.“Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth!Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di.Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.

7. Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawnym mhob un o drefi'r wlad.Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a chymryd eu plant i ffwrdd,am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.

8. Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr.Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd,a chwalu bywydau eu mamau.Bydd dioddef a dychrynyn dod drostyn nhw'n sydyn.

9. Bydd y fam oedd â saith o feibionyn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu.Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywydwedi machlud ganol dydd.Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth.A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladdgan gleddyf y gelyn,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10. “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”

11. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.

12. “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15