Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 14:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y sychder:

2. “Mae pobl Jwda yn galaru.Mae'r busnesau yn y trefi yn methu.Mae pobl yn gorwedd ar lawr mewn anobaith.Mae Jerwsalem yn gweiddi am help.

3. Mae'r meistri yn anfon eu gweision i nôl dŵr;mae'r rheiny'n cyrraedd y pydewaua'u cael yn hollol sych.Maen nhw'n mynd yn ôl gyda llestri gwag,yn siomedig ac yn ddigalon.Maen nhw'n mynd yn ôlyn cuddio'u pennau mewn cywilydd.

4. Mae'r tir wedi sychu a chracioam nad ydy hi wedi glawio.Mae'r gweision fferm yn ddigalon,ac yn cuddio'u pennau mewn cywilydd.

5. Mae hyd yn oed yr ewig yn troi cefnar y carw bach sydd newydd ei eni,am fod dim glaswellt ar ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 14