Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 13:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae'r bobl ddrwg yma yn gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.

11. Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”

12. “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’

13. Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.

14. Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

15. Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch!—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

16. Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haedducyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi.Cyn i chi faglu a syrthiowrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd.Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdanodroi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.

17. Os wnewch chi ddim gwrando,bydda i'n mynd o'r golwg i grïo am eich bod mor falch.Bydda i'n beichio crïo, a bydd y dagrau'n llifo,am fod praidd yr ARGLWYDD wedi ei gymryd yn gaeth.

18. “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines:‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch.Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 13