Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 12:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. ARGLWYDD, ti sydd bob amser yn iawnpan dw i'n cwyno am rywbeth.Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn –Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo?Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd?

2. Ti'n eu plannu nhw fel coed,ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau.Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth.Maen nhw'n siarad amdanat ti trwy'r amser,ond dwyt ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.

3. Ond rwyt ti'n fy nabod i, ARGLWYDD.Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti.Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd;cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa.

4. Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros,a glaswellt y caeau fod wedi gwywo?Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tiram fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg,ac am eu bod nhw'n dweud,“Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.”

5. “Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di,sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau?Os wyt ti'n baglu ar y tir agored,beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen?

6. Y gwir ydy, mae hyd yn oed dy berthnasauwedi dy fradychu di.Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di.Felly paid â'i credu nhw,hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.

7. Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,a gwrthod y bobl ddewisais.Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caruyn nwylo eu gelynion.

8. Mae fy mhobl wedi troi arna ifel llew yn y goedwig.Maen nhw'n rhuo arna i,felly dw i yn eu herbyn nhw.

9. Mae'r wlad fel ffau hienasac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd.Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.

10. Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan,a sathru'r tir ddewisais.Byddan nhw'n troi y wlad hyfrydyn anialwch diffaith.

11. Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,nes bydd yn grastir gwag.Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio,a does neb o gwbl yn malio.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 12