Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 10:1-2-10 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi:“Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd.Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau,a gadael i bethau felly eich dychryn chi,fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny.

3. Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim!Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig,ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn.

4. Wedyn mae'n ei addurno gydag arian ac aur,ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i'w ddal yn ei le,rhag iddo syrthio!

5. Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau.Allan nhw ddim siarad;allan nhw ddim cerdded,felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman.Peidiwch bod a'u hofn nhw –allan nhw wneud dim niwed i chi,na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!”

6. “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw'n debyg i ti.Ti ydy'r Duw mawr,sy'n enwog am dy fod mor bwerus!

7. Ti ydy Brenin y cenhedloedd,felly dylai pawb dy addoli di –dyna wyt ti'n ei haeddu!Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyda'r teyrnasoedd ddim byd tebyg i ti.

8. Pobl wyllt a dwl ydyn nhw,yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw!

9. Maen nhw'n dod ag arian wedi ei guro o Tarshish,ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau.Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny;a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus!

10. Yr ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn –y Duw byw, sy'n frenin am byth!Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu.Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 10