Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 1:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”

9. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,“Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.

10. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiwa rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu,yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,yn adeiladu ac yn plannu.”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.”

12. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.”

13. Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.”

14. “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd.

15. Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd:” (Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn)“‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddauwrth giatiau Jerwsalem.Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas,ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’

16. “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi ei wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi eu gwneud gyda'i dwylo eu hunain!”

17. “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod a'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw.

18. Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl.

19. Byddan nhw'n trïo dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 1