Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 1:6-12 beibl.net 2015 (BNET)

6. “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i, “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.”

7. Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb,“Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon diac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti.

8. Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”

9. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,“Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.

10. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiwa rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu,yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,yn adeiladu ac yn plannu.”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.”

12. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 1