Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 1:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges Jeremeia, mab Chilceia oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin).

2. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd.

3. Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

4. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

5. “Roeddwn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth,ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni.Dyma fi'n dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”

6. “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i, “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.”

7. Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb,“Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon diac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti.

8. Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”

9. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,“Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.

10. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiwa rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu,yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,yn adeiladu ac yn plannu.”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 1