Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft,ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.

4. Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD,nac offrymu aberthau iddo.Bydd yr aberthau'n aflan,fel bwyd pobl sy'n galaru;bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.

5. Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD?

6. Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,a Memffis yn eu claddu nhw.Bydd chwyn yn chwennych eu trysoraua mieri'n meddiannu eu tai.

7. Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Mae dydd y farn wedi dod!Mae'n bryd i Israel wybod!“Mae'r proffwyd yn hurt!Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”Ti wedi pechu gymaint,ac mor llawn casineb!

8. Mae'r proffwyd yn wyliwrdros Effraim ar ran Duw.Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.

9. Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,fel digwyddodd yn Gibea gynt.Bydd Duw yn delio gyda'u drygioniac yn eu cosbi am eu pechodau.

10. Roedd darganfod Israelfel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.I mi, roedd dy hynafiaidfel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus –cyn pen dim aethon nhw mor ffiaiddâ'r eilun roedden nhw'n ei addoli.

11. “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth!

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 9