Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9:10-15 beibl.net 2015 (BNET)

10. Roedd darganfod Israelfel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.I mi, roedd dy hynafiaidfel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus –cyn pen dim aethon nhw mor ffiaiddâ'r eilun roedden nhw'n ei addoli.

11. “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth!

12. Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw!

13. Roeddwn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi ei phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.”

14. Rho iddyn nhw, ARGLWYDD – Ond beth roi di iddyn nhw? – Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!

15. “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal,dw i'n eu casáu nhw.Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tiro achos eu holl ddrygioni.Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 9